Wrth iddo baratoi ar gyfer gem fawr Cynghrair Ewrop heno (nos Fawrth, Hydref 23) yn erbyn ei hen dîm, Manchester United, mae Cristiano Ronaldo yn “hyderus” y bydd yn gwrthbrofi’r cyhuddiad trais yn ei erbyn.

Mae’r ymosodwr 33 oed wedi ei gyhuddo o dreisio merch mewn gwesty yn Las Vegas yn 2009. Mae’n dal i wadu’r honiadau.

Mae’n achos sydd wedi bod yn llygaid y cyhoedd ers amser ac wedi creu tipyn o sgwrsio o gwmpas delwedd ac ymddygiad Ronaldo sydd â cytundeb gwerth £768m gyda Nike.

“Dw i’n ddyn hapus, ar y cae ac oddi ar y cae,” meddai Cristiano Ronaldo yn ystod cynhadledd i’r wasg Cynghrair Ewrop.

“Mae fy nghyfreithwyr yn hyderus, ac wrth gwrs, mi ydw i hefyd, yn hyderus y byddaf yn clirio fy enw.”