Mae arbenigwyr tywydd yn rhybuddio fod corwynt yn prysur dyfu i fod yn storm gategori 5, wrth anelu am arfordir de Mecsico.

Mae gwyntoedd Willa eisoes wedi cyrraedd cyflymder o 150mya, er mae digwyl iddyn nhw arafu ychydig wrth gyrraedd tir yn hwyr heno (nos Fawrth, Hydref 23).

Ond mae disgwyl gwyntoedd mawr a pheryglus wrth iddyn nhw basio Islas Marias – set o ynysoedd tua 60 milltir oddi ar arfordir Mecsico, lle mae yna barc bywyd gwyllt a charchar. Yna, wedi gadael yr ynysoedd, mae disgwyl i’r storm gyrraedd glan yn nhref wyliau Mazatlan a San Blas.

Mae llywodraethau taleithiau Sinaloa a Nayarit wedi gorchymyn fod ysgolion yn aros ar gau, a bod trigolion yn dechrau meddwl am adael y cartrefi a mynd i lochesi argyfwng sy’n cael eu paratoi ar eu cyfer.