Mae cyn-brif weinidog Croatia wedi cael ei garcharu am ddwy flynedd a hanner, wedi i lys ei gael yn euog o elwa o’i sefyllfa.

Mae Llys Sirol Zagreb wedi dod i’r farn fod yn rhaid i Ivo Sanader hefyd ddychwelyd hanner miliwn o ewros (£436,000) yr oedd wedi’u derbyn fel rhan o ddêl gyda Banc Hypo yn Awstria yn y 1990au.

Roedd Ivo Sanader yn ddirprwy weinidog tramor ar y pryd, ac mae wedi’i gael yn euog weithredu er mwyn ei fuddiannau ei hunan yn hytrach na’i wlad yn ystod rhyfel 1992-95.

Fe aeth Ivo Sanader yn ei flaen i fod yn brif weinidog y wlad rhwng 2003 a 2009. Ef yw’r gwleidydd uchaf ei broffil i gael ei roi ar brawf am lygredd yn Croatia.