Mae Sw Indianapolis yn ceisio gweithio allan pam y mae llewes yno wedi lladd ei chymar.

Fe ymosododd Zuri ar ei chymar deng mlwydd oed, Nyack yn eu cawell yn y sw yr wythnos ddiwethaf. Roedd y ddau wedi bod yn cyd-fyw yno am wyth mlynedd ac wedi cael tri o genawon yn 2015.

Roedd Nyach ar fenthyg i Sw Indianapolis o San Deigo.

Fe glywodd staff ruo anghyffredin yn dod o’r gawell, a phan gyrhaeddon nhw’r fan, roedd Zuri yn gafael yn dynn yng ngwddw Nyack, ac fe ddaliodd i wneud hynny nes iddo farw.