Mae pedwar teithiwr o America, ynghyd â thywysydd o Costa Rica, wedi’u lladd mewn damwain rafft yn y wlad.

Fe drodd tair rafft drosodd ar afon Naranjo ddydd Sadwrn (Hydref 20) ac fe gafodd pump o bobol eu cario efo’r llif, yn ôl yr awdurdodau.

Fe lwyddodd rafftwyr eraill i ddal gafael cyn iddyn nhw gael eu hachub gan gaiac.

Mae’r awdurdodau’n dweud i’r Americanwyr gyrraedd Costa Rica ar Hydref 18, a’u bod wedi rhentu cwch o Playa Hermosa de Jaco.

Mae’r Croes Goch yn dweud i’r rafftiau droi drosodd ger Liverpool de Quepos.