Mae prif weinidog Awstralia wedi ymddiheuro’n swyddogol i bobol yn y wlad sydd wedi cael eu cam-drin yn rhywiol, gan ddweud fod yn rhaid i’r genedl gydnabod eu dioddefaint, a “dweud sori”.

Mewn araith emosiynol yn y senedd, gerbron ca nnoedd o ddioddefwyr, mae Scott Morrison wedi derbyn canlyniadau comisiwn brenhinol sy’n dangos fod y wlad wedi methu gwarchod – na gwrando ar – bobol sydd wedi dioddef,

“Heddiw, fel cenedl, rydyn ni’n dod wyneb yn wyneb â’n methiannau,” meddai, “ac rydyn ni’n ymddiheuro am hynny.”

Mae’r cwest pedair blynedd wedi cyflwyno ei adroddiad terfynol ers mis Rhagfyr y llynedd, ac mae’n cynnwys tystiolaeth gan fwy na 17,000 o ddioddefwyr. Fe glywodd y cwest hefyd honiadau yn erbyn y llywodraeth, yr eglwys a sefydliadau preifat, yn ogystal â thystiolaeth yn erbyn unigolion amlwg.

“Pam na chafodd plant y wlad hon eu caru, eu hyrwyddo a’u diogelu?” meddai Scott Morrison wedyn. “Pam wnaethon ni eu bradychu nhw?

“Pam fod y rhai oedd yn gwybod am y pethau hyn, ddewis cadw’n dawel? A chudio’r hyn oedd yn digwydd? Pam wnaethon ni anwybyddu cri ein plant? Sut a pham fod ein system wedi bod yn ddall i hyn i gyd, ac i gyfiawnder? Pam fod pethau eraill yn bwysicach na gofalu am ein plant diniwed? Pam na wnaethon ni eu credu nhw?”