Mae Prif Weinidog Awstralia, Scott Morrison wedi gwrthod galw etholiad cynnar.

Y disgwyl yw y bydd ei lywodraeth glymblaid yn colli ei mwyafrif bach yn dilyn is-etholiad dros y penwythnos ar gyfer sedd y cyn-brif weinidog, Malcolm Turnbull.

Collodd ei ragflaenydd ei swydd yn bennaeth y wlad yn dilyn pleidlais fewnol yn y blaid Ryddfrydol fis Awst.

Yn ôl rhagolygon cynnar ddydd Sadwrn, mae’r blaid wedi colli rhagor o dir eto, gyda thipyn o gefnogaeth i’r ymgeisydd annibynnol Keryn Phelps.

Pe bai’r rhagolygon yn gywir, fe fyddai gan y blaid sydd mewn grym 75 o seddi allan o 150. Mae gan Lafur 69 ar hyn o bryd, a chwe sedd sydd gan aelodau annibynnol neu bleidiau lleiafrifol, a allai fod yn allweddol wrth ffurfio llywodraeth.

Dywedodd Scott Morrison fod ei lywodraeth leiafrifol wedi bod yn ymdopi’n iawn fel ag y mae.