Mae Arlywydd yr Unol Daleithiau yn dweud ei bod yn “debygol iawn” bod newyddiadurwr o Sawdi Arabia wedi marw.
Mae hefyd yn dweud y bydd yna “oblygiadau difrifol” i Sawdi Arabia os ydyn nhw’n gyfrifol am farwolaeth Jamal Khashoggi.
Dyw Donald Trump ddim wedi ymhelaethu ar sut y daeth i’r casgliad diweddaraf hwn, yn enwedig wedi iddo fynnu droeon cyn hyn bod angen ffeithiau cadarn cyn dod i unrhyw gasgliadau am yr hyn ddigwyddodd.
Yn y cyfamser, mae Ysgrifennydd Gwladol Donald Trump, Mike Pompeo, yn dweud y dylai Sawdi Arabia gael mwy o amser i ymchwilio cyn bod yr Unol Daleithiau yn pwyntio bys a gweithredu.
Mae Ysgrifennydd y Trysorlys wedyn, Steven Mnuchin, ymhlith y diweddaraf i gyhoeddi na fydd bellach yn mynd i gynhadledd fusnes sydd wedi’i threfnu gan Sawdi Arabia.
Cefndir
Cafodd Jamal Khashoggi ei weld am y tro diwethaf bron pythefnos (Hydref 2) yn ôl yn cerdded i mewn i lysgenhadaeth Sawdi Arabia yn Istanbul.
Mae lle i gredu ei fod wedi cael ei lofruddio gan ysbiwyr o Sawdi Arabia, gydag un papur newydd yn Nhwrci yn dweud ei fod wedi cael ei ladd a bod ei gorff wedi’i ddatgymalu yn y lleoliad.
Mae Sawdi Arabia yn parhau i wadu bod ganddyn nhw unrhyw ran yn y digwyddiad.