Mae dyn wedi pledio’n euog o herwgipio a threisio merch o wledydd Prydain tra oedd hi ar daith yn Awstralia.

Roedd Marcus Allyn Keith Martin, 23, wedi’i gyhuddo o gadw dynes yn ei hugeiniau yn gaeth am o leiaf mis o gyfnod rhwng misoedd Chwefror a Mawrth y llynedd.

Ar ôl i’r heddlu ddod o hyd i’r ferch ger ardal Mitchell yn Queensland, bu’n rhaid iddi dderbyn triniaeth yn yr ysbyty am anafiadau, gan gynnwys rhai ar ei hwyneb.

Mae’n debyg ei bod wedi llwyddo i ddianc ar Fawrth 5, gan redeg i orsaf betrol anghysbell yn yr ardal.

Dywedodd wrth yr heddlu ei bod wedi cyfarfod â’i herwgipiwr mewn parti yn Cairns.

Fe ymddangosodd Marcus Allyn Keith Martin gerbron Llys Rhanbarthol Cairns trwy gyfrwng fideo heddiw (dydd Gwener, Hydref 19), lle plediodd yn euog i dri achos o dreisio ac un achos o amddifadu rhyddid unigolyn.

Bydd yn ymddangos gerbron y llys eto ar Chwefror 11 y flwyddyn nesaf, pan fydd dyddiad ar gyfer ei ddedfrydu yn cael ei gadarnhau.