Mae’n cael ei amau o gael gwared ar dystiolaeth am yr ymosodwr rhyw, Larry Nassa

Mae cyn-bennaeth y corff, USA Gymnastics, wedi cael ei arestio ar amheuaeth o ymyrryd â thystiolaeth yn yr ymchwiliad i achos o ymosodiad rhyw gan y doctor, Larry Nassar.

Mae’r awdurdodau yn Huntsville, Texas, yn dweud bod Steve Penny wedi cael ei arestio yn Gatlinburg, Tenessee, a bydd bellach yn cael ei gludo’n ôl i dalaith Texas.

Mae’n cael ei gyhuddo o gael gwared ar ddogfennau o fferm Karolyi ger Huntsville, sy’n gysylltiedig â Larry Nassar, a gafodd ei ddedfrydu ddechrau’r flwyddyn i o leiaf 300 mlynedd o garchar am ymosod yn rhywiol ar blant.

Mae Steve Penny yn cael ei amau o symud y dogfennau er mwyn atal yr ymchwiliad i weithgareddau’r doctor gymnasteg.

Pe bai’n cael ei ganfod yn euog, fe all Steve Penny, a ymddiswyddodd o fod yn Llywydd USA Gymnastics y llynedd, wynebu hyd at 10 mlynedd yn y carchar.