Mae amheuon bod Jamal Khashoggi wedi cael ei lofruddio yn Nhwrc

Mae papur newydd The Washington Post wedi cyhoeddi colofn olaf y newyddiadurwr o Sawdi Arabia a gafodd ei lofruddio yn Nhwrci ddechrau’r mis.

Mae’n bron i bythefnos ers i Jamal Khashoggi gael ei weld am y tro diwethaf yn cerdded i mewn i swyddfa Sawdi Arabia yn Istanbul ar Hydref 2.

Yr honiad yw ei fod wedi cael ei lofruddio gan ysbïwyr o Sawdi Arabia, gydag un papur newydd yn Nhwrci yn dweud ei fod wedi cael ei ladd a’i ddatgymalu yn y swyddfa. Mae Sawdi Arabia wedi gwadu bod ganddyn nhw unrhyw gysylltiad â’r digwyddiad.

Yn ei erthygl yn The Washington Post, dywed y newyddiadurwr fod angen mwy o ryddid ar bobol i fynegi eu barn yn y gwledydd Arabaidd.

Mae gan y gwledydd hynny eu “lleng haearn” eu hunain, meddai, wrth i rai llywodraethau atal pobol rhag cael mynediad at y we a charcharu newyddiadurwyr sy’n cyhoeddi deunydd beirniadol.

Ychwanega fod sicrhau llwyfan i leisiau Arabaidd yn “hanfodol”, a bod angen i bobol gyffredin fod yn rhydd i drafod y problemau sy’n bodoli yn eu cymunedau.

Yn ôl un o olygyddion y Washington Post, cafodd yr erthygl gan Jamal Khashoggi ei anfon gan ei gyfieithydd, a hynny ddiwrnod ar ôl iddo fynd ar goll.

Bu oedi cyn ei chyhoeddi oherwydd y gobaith bod Jamal Khashoggi yn dal i fod y fyw.