Mae ffrwydriad wedi lladd deg o bobol mewn coleg yn y Crimea, yn ôl asiantaeth gwrth-frawychiaeth Rwsia.

Fe gafodd y ddyfais ei thanio mewn coleg galwedigaethol yn ninas Kerch yn nwyrain Crimea.

Mae tua 50 o bobol wedi’u hanafu yn y digwyddiad, er nad oes manylion pellach ynglyn â’u hanafiadau na’u cyflwr.

Ynghynt heddiw, roedd swyddogion y gwasanaethau argyfwng yn dweud mai cynhwysydd nwy oedd wedi ffrwydro.

Ers 2014, mae Rwsia wedi hawlio’r Crimea oddi ar yr Wcrain.