Pum diwrnod ar ôl i Gorwynt Michael daro talaith Fflodida, mae pobol yn dal i edrych am rai o aelodau o’u teuluoedd a’u ffrindiau.

Mae 17 o farwolaethau wedi eu cofnodi o Fflorida i Virginia, ar hyn o bryd, ac mae’r chwilio am oroeswyr eraill yn parhau.

Mae un farwolaeth wedi ei chyfrif hyd yn hyn yn Mexico Beach, tref o tua mil o bobol a gafodd ei tharo’n ddrwg gan wyntoedd 155 milltir yr awr.

Mae nifer y bobol sydd ar goll yn 285.

Wrth i’r corwynt agosáu cafodd mwy na 375,000 o bobol Fflorida eu rhybuddio i adael.

Ond roedd diffyg signal ffôn symudol yn golygu nad oedd llawer yn gallu rhybuddio’u teuluoedd a’u cyfeillion mewn pryd.