Mae Donald Trump wedi cael sgwrs gyda Brenin Salman o Sawdi Arabia ynglŷn â diflaniad newyddiadurwr o America oedd ar ymweliad â Twrci.

Does neb wedi gweld Jamal Khashoggi ers iddo fynd i lysgenhadaeth Sawdi Arabia yn Istanbwl, prifddinas Twrci, ar Hydref 2.

Mae’r newyddiadurwr wedi bod yn feirniadol o gyfundrefn Sawdi Arabia, ac mae amgylchiadau rhyfedd ei ddiflaniad wedi codi pryderon ei fod wedi cael ei ladd.

“Gwadu gwybod dim”

“Dw i newydd siarad â brenin Sawdi Arabia, sy’n gwadu ei fod yn gwybod unrhyw beth am yr hyn allai fod wedi digwydd ‘i’n dinesydd ni,” meddai Donald Trump ar Twitter.

Mae Donald Trump wedi anfon Ysgrifennydd Gwladol yr Unol Daleithiau, Mike Pompeo, i gyfarfod â’r Brenin Salman i ddarganfod beth sydd wedi digwydd i Jamal Khashoggi. Mae disgwyl i Mike Pompeo fynd i Riyadh ac ymweld â Thwrci yn ddiweddarach.

Dywed Donald Trump bod Sawdi Arabia wedi dweud eu bod yn gweithio’n agos â Thwrci i geisio darganfod beth sydd wedi digwydd.