Mae’r Archesgob Oscar Romero o El Salfador wedi dod yn sant.

Fe gafodd ei ganoneiddio gan y Pab Ffransis ar ddechrau’r Offeren yn Sgwâr San Pedr ddydd Sul.

Cafodd y Pab Pawl VI ei wneud yn sant hefyd, ynghyd â phump o bobol eraill.

Yn y dorf roedd hyd at 5,000 o bererinion o El Salfador.

Hanes Oscar Romero

Cafodd Oscar Romero ei saethu’n farw yn ystod Offeren yn 1980.

Ef oedd pedwerydd Archesgob ei wlad.

Roedd yn weithgar wrth geisio atal tlodi, anghyfiawnder cymdeithasol ac artaith.

Ni chafodd unrhyw un ei arestio am ei lofruddiaeth, ond mae lle i gredu mai’r gwleidydd asgell dde Roberto D’Aubuisson oedd wedi gorchymyn y dylai gael ei ladd.

Mae ei hanes wedi’i anfarwoli yng nghân Dafydd Iwan.