Mae o leiaf 22 o ffoaduriaid wedi cael eu lladd yn Twrci ar ôl i gerbyd foelyd yn nhalaith Izmir.
Cafodd 13 o bobol eu hanafu yn y digwyddiad, ac maen nhw’n derbyn triniaeth yn yr ysbyty.
Does dim rhagor o fanylion am yr unigolion ar hyn o bryd.
Mae degau o filoedd o ffoaduriaid yn cyrraedd y lan yn y wlad bob blwyddyn wrth geisio cael mynediad i wlad Groeg, sy’n aelod o’r Undeb Ewropeaidd.
Er gwaethaf cytundeb yn 2016 i ddychwelyd ffoaduriaid o’r wlad wrth iddyn nhw gyrraedd, mae nifer sylweddol ohonyn nhw’n dal i geisio cyrraedd y cyfandir.