Mae dynes wedi cael ei lladd gan grocodeil yn Nhiriogaeth y Gogledd yn Awstralia.

Roedd y ddynes yn geidwad bywyd gwyllt ac fe ddigwyddodd yr ymosodiad mewn safle anghysbell tua 128 milltir i’r de orllewin o’r gymuned frodorol yn Yirrkala.

Dywedodd y corff sy’n goruchwylio diogelwch gweithwyr eu bod nhw’n ymchwilio i’r digwyddiad.

Gan fod crocodeiliaid yn rhywogaeth warchodedig yn Awstralia ers y 1970au, mae cynnydd mawr wedi bod yn eu niferoedd yng ngogledd y wlad.

Maen nhw’n gallu byw am hyd at 70 mlynedd a gan eu bod yn parhau i dyfu drwy gydol eu bywyd, mae rhai yn cyrraedd hyd at saith metr (23 troedfedd) o hyd.