Mae’r dyn sy’n cael ei ddisgrifio fel biliwnydd ieuengaf cyfandir Affrica, wedi cael ei herwgipio gan ddynion arfog yn Tanzania.

Mae’r heddlu yn dweud i Mohammed Dewji, 43, gael ei lusgo yn erbyn ei ewyllys gan ddynion â gynnau o westy’r Dar es Salaam lle’r oedd ar ei ffordd i’r gampfa.

Yn ol yr awdurdodau, mae plismyn yn aros ar bob ffin, yn barod i rwystro’r dynion croenwyn os ydyn nhw’n ceisio dianc o’r wlad.

Yn 2016, fe gyhoeddodd cylgrawn Forbes bod Mohammed Dewji yn werth $1.5bn (£1.13bn).