Mae myfyriwr o wledydd Prydain wedi’i gadw yn y ddalfa yn y Dwyrain Canol heb “unrhyw esboniad”, yn ôl ei wraig.

Mae Daniela Tejada yn honni bod ei gŵr, Matthew Hedges, 31, wedi bod yn y ddalfa yn yr Emiradau Arabaidd Unedig (UAE) ers Mai 5 eleni.

Myfyriwr doethuriaeth ym Mhrifysgol Durham yw’r dyn, ac fe fu’n cynnal cyfweliadau yn y wlad am eu polisi tramor a’u strategaeth ddiogelwch.

Yn ôl Daniela Tejada, mae awdurdodau yn “sathru ar ei hawliau dynol”, a’r oll y mae hi’n ei ddymuno yw bod “Matt yn dychwelyd adref yn saff”.

“Brawychus”

“Mae Matt yn ddinesydd Prydeinig, ac fe ymwelodd â’r Emiradau am resymau ymchwil,” meddai’r wraig.

“Ers pum mis, mae’n cael e gadw yn y ddalfa mewn lleoliad anhysbys.

“Mae hyn yn frawychus, a rhaid gwneud rhagor i sicrhau ei fod yn dod adref yn ddiogel.”

Ymddangosodd Matthew Hedges gerbron llys yn Abu Dhabi ddydd Mercher (Hydref 10), ac mae ei wrandawiad wedi’i ohirio tan Hydref 24.