Mae daeargryn wedi achosi dinistr ar ddwy o ynysoedd Indonesia, gan ladd o leia’ dri o bobol.

Ar Java roedd y cryniadau ar eu gwaethaf, ac ar yr ynys honno y bu farw tri pherson mewn un pentref wrth i’r daeargryn ddinistrio cartrefi.

Roedd y sefyllfa dipyn yn well yn Bali, ac er y bu’n rhaid gwagio adeiladau yno, chafodd dim un person na thwrist eu lladd.   

Daw’r daeargryn yn sgil daeargryn-swnami a darodd Indonesia fis diwetha’ gan ladd miloedd o bobol. Dinas Palu gafodd ei tharo waethaf bryd hynny.

Mae 80,000 o bobol yn byw mewn llochesibdros dro yn sgil y trychineb.