Mae’r awdurdodau yn Tsieina wedi newid y gyfraith er mwyn cyfreithloni’r defnydd o “wersylloedd hyfforddiant” mewn ardal lle mae tua miliwn o Fwslimiaid yn cael eu cadw dan glo.

O dan y drefn newydd sydd wedi cael ei fabwysiadu gan y llywodraeth ranbarthol yn Xinjiang, mae bellach hawl ganddyn nhw ddefnyddio “canolfannau addysg a hyfforddiant” ar gyfer pobol y maen nhw’n credu sydd “wedi’u dylanwadu gan eithafiaeth.”

Mae nifer o Fwslimiaid sydd wedi cael eu cadw mewn gwersylloedd o’r fath yn y gorffennol yn honni eu bod nhw’n cael eu gorfodi i roi’r gorau i Islam.

Mae’n rhaid iddyn nhw hefyd, medden nhw, dyngu llw o ffyddlondeb i Blaid Gomiwnyddol y wlad.

Mae’r awdurdodau’n gwadu bod y fath wersylloedd yn bodoli, ond maen nhw’n ychwanegu bod “canolfannau hyfforddiant” yn cael eu defnyddio ar gyfer unigolion sydd wedi cyflawni mân droseddau.