Mae’r heddlu wedi arestio dyn ar amheuaeth o dreisio a llofruddio newyddiadurwraig, ar ôl i’w chorff gael ei darganfod ger afon Donaw dros y Sul.

Mae prif erlynydd Bwlgaria wedi cadarnhau bod dyn o Bwlgaria o’r enw Severin Krasimirov wedi cael ei arestio.

Mae llefarydd ar ran y llywodraeth yn dweud fod yr heddlu wedi dod o hyd i DNA Severin Krasimirov ar ddillad y cyflwynydd, Viktoria Marinova, 30 oed.

Fe ddaeth yr awduordodau o hyd i’w chorff yn nhref Ruse yng ngogledd Bwlgaria ddydd Sadwrndiwethaf (Hydref 6).

Viktoria Marinova oedd cyflwynydd sioe deledu y mis diwethaf oedd yn ymchwilio i achos o dwyll yn ymwneud â chronfeydd arian yr Undeb Ewropeaidd.