Mae hanner cant o bobol wedi marw mewn damwain bws yn nhref Kericho, wedi i’r cerbyd adael y ffordd cyn rhowlio i lawr llethr.

Fe ddigwyddodd y ddamwain tua 4 o’r gloch fore heddiw (dydd Mercher, Hydref 10).

Mae’r awdurdodau yn dweud bod rhai pobol wedi goroesi, a’u bod yn derbyn triniaeth mewn ysbyty yn Nairobi.

Mae Cenia wedi trio torri i lawr ar y nifer o ddamweiniau ffyrdd, ond mae yna alw cynyddol ymysg y dosbarth canol yn y wlad am gerbydau i’w cario o le i le.

Mae tua 3,000 o bobol yn marw bob blwyddyn mewn damweiniau ffyrdd yn Cenia, yn ôl ystadegau’r lywodraeth.