Mae ffrae rhwng dwy blaid tros annibyniaeth i Gatalwnia yn golygu mai lleiafrif sydd gan y llywodraeth erbyn hyn, gan daflu cysgod tros yr ymgyrch.

Dydi ERC a Junts per Catalunya ddim wedi cydweld ynghylch sut i ymateb i waharddiad llys chwech o wleidyddion sydd wedi’u cyhuddo mewn perthynas â’u rhan yn refferendwm annibyniaeth Catalwnia y llynedd, sy’n cael ei ystyried yn anghyfreithlon gan yr awdurdodau yn Sbaen.

Mae’r ERC wedi enwi ymgeiswyr i gymryd lle dau o’u haelodau sydd wedi’u gwahardd, ond mae Junts per Catalunya wedi gwrthod gwneud hynny, gan ddatgan eu bod nhw am weld eu pedwar ymgeisydd, gan gynnwys y cyn-Arlywydd Carles Puigdemont, yn cael parhau i bleidleisio yn y senedd.

Yn dilyn y ffrae ddydd Mawrth, penderfynodd yr ERC uno â gweddill y senedd er mwyn atal aelodau Junts per Catalunya rhag pleidleisio.

Colli cefnogaeth

Bellach, mae gan bleidiau sy’n cefnogi annibyniaeth 61 sedd allan o 135 – naw sedd yn llai nag yr enillon nhw yn dilyn etholiadau fis Rhagfyr y llynedd.

CUP oedd y blaid gyntaf i dynnu eu cefnogaeth i aelodau Junts per Catalunya ac fe wrthododd aelod arall drosglwyddo’i bleidlais ar ôl cael ei wahardd rhag pleidleisio.

Mae amheuon bellach am ddyfodol rhai o bolisïau’r pleidiau o blaid annibyniaeth, gan gynnwys yr hawl i Gatalwnia gael deddfu drosti ei hun.

Yn sgil yr helynt, mae pryderon y gallai’r arweinydd newydd Quim Torra golli grym ac y gallai etholiadau newydd gael eu cynnal.