Fe fu’n rhaid i dros 10,000 o bobol ffoi yn dilyn tân mewn warws arfau yn yr Wcráin.

Yn ôl Gweinidogaeth Argyfwng y wlad, bu’r digwyddiad yn nwyrain Chernihiv yn gynnar fore Mawrth (Hydref 9).

Mae’r weinidogaeth hefyd wedi cadarnhau bod y warws yn cynnwys 88,000 tunnell metrig o arfau, er bod swyddogion y fyddin yn mynnu bod hanner ohonyn nhw wedi’u symud i leoliadau eraill.

Fe gafodd ffyrdd a rheilffyrdd yr ardal eu cau yn ystod y digwyddiad, ond does dim adroddiadau bod unrhyw un wedi’u hanafu.

Dyma’r digwyddiad diweddaraf lle mae tân wedi dinistrio rhai o arfau milwrol yr Wcráin.

Mae rhai swyddogion yn dweud mai difrod bwriadol yw hyn, yn enwedig o ystyried y tensiynau sydd rhwng y wlad a Rwsia.

Ond mae eraill yn mynnu mai esgeulustod a ddiffyg parch tuag at reolau iechyd a diogelwch sy’n bennaf gyfrifol.