Mae ymosodiad gan y Taliban yn nhalaith ogleddol Jawzjan yn Afghanistan, wedi lladd deuddeg o filwyr ac anafu deg arall.

Yn ôl prif heddwas Jawzjan, fe ddigwyddodd yr ymosodiad yn ardal Qush Typa yn hwyr neithiwr (nos Lun, Hydref 8).

Yn yr ymladd ddigwyddodd wedyn, y gred ydi fod 30 aelod o’r Taliban wedi’u lladd, a 19 o bobol wedi cael eu hanafu.

Mae’r Taliban wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiad.

Hefyd ddoe, fe ymosododd y Taliban ar ardal yn nhalaith ddeheuol Ghazni, gan ladd tri aelod o’r lluoedd diogelwch.