Mae llywodraeth Awstralia yn ystyried gwahardd rhai mewnfudwyr rhag ymgartrefu mewn dinasoedd mawr.

Bwriad y llywodraeth ydi torri nifer y mewnfudwyr sy’n symud i Sydney a Melbourne er mwyn ceisio “lleihau tagfeydd”.

Fe fyddai hyn yn golygu gosod amodau newydd ar y fisas sydd ar hyn o bryd yn gwahardd mewnfudwyr rhag aros yn hir mewn canolfannau llai poblog, er mwyn cynyddu’r tebygolrwydd y bydden nhw’n ymgartrefu yn y mannau hynny yn barhaol.

Awstralia yw un o’r gwledydd mwyaf poblogaidd yn y byd, ond mae ganddi gyfran uchel o’i phoblogaeth – 25 miliwn o bobol ar hyn o bryd – yn byw mewn dinasoedd.

Mae tua dau o bob pump o’r rheiny yn byw yn Sydney a Melbourne.