Mae Pacistan yn gofyn am yr hawl i fenthyg arian o’r Gronfa Ariannol Ryngwladol (IMF) er mwyn mynd i’r afael ag “argyfwng”.

Mae gweinidog cyllid y wlad, Asad Umar, am fod yn cynnal trafodaethau gyda swyddogion yr IMF yn ddiweddarach y mis hwn, gan obeithio benthyg £6.1bn.

Bydd hefyd yn ceisio benthyciadau newydd gan Tsieina, sydd eisoes wedi buddsoddi’n drwm yn ffyrdd a’r sector ynni yn Pacistan

Ar ôl ymweliad yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd yr IMF adroddiad yn dweud bod Pacistan yn wynebu “heriau economaidd sylweddol”, gyda diffygion ariannol a lefelau isel o gronfeydd wrth-gefn.

Mae’r cynnydd cyflym mewn prisiau olew rhyngwladol, normaleiddio polisi ariannol yr Unol Daleithiau, a thynhau amodau ariannol ar gyfer marchnadoedd newydd, oll wedi gwneud pethau’n anodd i Pacistan.