Mae un o gwmnïau diogelwch y byd digidol yn dweud bod nifer yr achosion o gam-ddefnyddio neu ddwyn gwybodaeth ar gynnydd.

Yn ôl Gemalto, mae’r gronfa ddata fawr sy’n cadw gwybodaeth amdanon ni i gyd wedi.cael ei thargedu 945 o weithiau yn ystod hanner cyntaf 2018.

Mae yna 4.5 biliwn o gofnodion yn cael eu cadw yn y gronfa am bobol ledled y byd.

Wrth gymharu â’r un cyfnod yn 2017, mae cynnydd o 133% wedi bod yn nifer yr wybodaeth sydd wedi cael ei dwyn neu euncyfaddawdu gan ymosodiadau fel hyn.

Fe fu chwech achos o dorri rheolau cyfrinachedd ar gyfryngau cymdeithasol, gan gynnwys digwyddiad Cambridge Analytica-Facebook, a oedd yn gyfrifol am dros 56% o’r holl gofnodion yn cael eu cyfaddawdu.