Mae pryderon bod hyd at 5,000 o bobol yn dal ar goll ers y daeargryn a tswnami ar ynys Sulawesi yn Indonesia.

Mae lle i gredu bellach fod mwy na 1,700 o bobol wedi marw yn y trychineb ar 28 Medi, a’r rhan fwyaf ohonyn nhw’n dod o Palu.

Y gred yw fod rhagor o bobol wedi cael eu claddu o dan y rwbel, lle mae mwy na 3,000 o gartrefi wedi cael eu dinistrio.

Mae’r ymdrechion i ganfod cyrff wedi’u heffeithio gan y tywydd garw, ac mae lle i gredu bod rhai pobol wedi llwyddo i ffoi o’r ardal.

Yn ôl ffigurau swyddogol, dim ond 265 sydd ar goll, a 152 o dan y rwbel.

Gobaith y llywodraeth yw cwblhau’r ffigurau swyddogol yn derfynol erbyn dydd Iau.