Mae nifer y teigrod yn y jyngl yn Nepal wedi dyblu ers 2009, yn ôl swyddogion cadwraeth.
Mae llywodraeth y wlad wedi cefnogi rhaglenni cadwraeth yn y cyfnod hwnnw, gyda swyddogion cadwraeth a llywodraeth leol yn cydweithio i gynyddu’r nifer.
Mae 235 o deigrod yn y jyngl erbyn hyn, o’i gymharu â 121 yn 2009.
Mae’r gwledydd sy’n gartref i deigrod wedi cytuno i geisio dyblu’r nifer ym mhob un o’r gwledydd hynny erbyn 2022.
Gallai Nepal fod ymhlith y gwledydd cyntaf i gyrraedd y nod – lawer gynt na’r disgwyl.