Mae’r actorion Amy Schumer ac Emily Ratajkowski ymhlith mwy na 300 o bobol sydd wedi cael eu harestio yn ystod protest yn erbyn enwebiad y Barnwr Brett Kavanaugh i’r Goruchaf Lys yn Washington DC.

Mae Brett Kavanaugh wedi cael ei gyhuddo o nifer o ymosodiadau rhywiol ar ferched. Roedd y protestwyr yn gwneud ymdrech funud olaf i apelio ar seneddwyr i wrthod enwebiad y barnwr dadleuol.

Wythnos ddiwethaf fe glywodd Pwyllgor Barnwriaeth y Senedd dystiolaeth emosiynol gan yr Athro Christine Blasey Ford sydd wedi cyhuddo Brett Kavanaugh o ymosod yn rhywiol arni pan oedden nhw yn eu harddegau yn y 1980au.

Mae’r barnwr hefyd wedi cael ei gyhuddo gan fenywod eraill ac wedi gwadu’r holl gyhuddiadau.

Cafodd y brotest gan filoedd o bobol yn Capitol Hill, Washington ei chynnal ar ôl i seneddwyr gael adroddiad gan yr FBI sydd wedi bod yn ymchwilio i’r honiadau yn erbyn Brett Kavanaugh. Yn ol y Gweriniaethwyr mae’r adroddiad yn profi nad oes unrhyw gamymddygiad wedi bod.

Fe fydd y bleidlais i benodi’r barnwr i’r swydd yn cael ei chynnal ddydd Sadwrn.