Mae asiantaethau dyngarol wedi lansio apêl i helpu darganfod goroeswyr y tswnami a darodd un o ynysoedd Indonesia yr wythnos ddiwethaf.

Erbyn hyn, mae dros 1,500 naill ai wedi marw, ar goll neu wedi’u hanafu yn dilyn y drychineb ar ynys Sulawesi yr wythnos ddiwethaf (Medi 28).

Mae’r ardaloedd sydd wedi’u heffeithio mwyaf yng nghanol yr ynys, o gwmpas dinas Palu, sy’n gartref i 380,000 o bobol.

Daw apêl gan y Pwyllgor Argyfwng Trychinebau (DEC) wrth i’r awdurdodau yn Indonesia bryderu bod nifer o bobol yn parhau ar goll mewn cymunedau sydd wedi profi dinistr.

Maen nhw’n credu bod hyd at 1.5m o bobol wedi cael eu heffeithio gan y drychineb.