Mae uchel lys y Cenhedloedd Unedig wedi gorchymyn yr Unol Daleithiau i roi’r gorau i rai o’u sancsiynau yn erbyn Iran.

Roedd Donald Trump wedi cyflwyno sancsiynau llym yn erbyn Iran ym mis Mai ar ôl i’r Unol Daleithiau adael y cytundeb rhyngwladol gydag Iran ynglŷn ag arfau niwclear.

Ers hynny, mae’r llywodraeth yn Tehran wedi ceisio herio’r sancsiynau yn y Llys dros Gyfiawnder Rhyngwladol yn yr Hâg.

Mae’r llys erbyn hyn wedi gorchymyn yr Unol Daleithiau i ddiddymu’r sancsiynau hynny sy’n ymwneud â nwyddau dyngarol a gwasanaethau hedfan y cyhoedd.

Mae disgwyl i’r Unol Daleithiau herio’r dyfarniad