Mae llong rhyfel o Tsieina wedi hwylio’n “beryglus” o agos at long o’r Unol Daleithiau, gan ei gorfodi i symud yn gyflym er mwyn osgoi gwrthdrawiad.

Dyna mae llefarydd ar ran byddin yr Unol Daleithiau yn ei ddweud, yn dilyn yr achos honedig ym Môr De Tsieina ddydd Sul (Medi 30).

“Fe hwyliodd y llong ryfel Tsieineaidd mewn modd ymosodol,” meddai’r llefarydd. “A thrwy gydol yr achos, aeth yn fwyfwy ymosodol.”   

Mae Tsieina wedi hawlio’r môr hwnnw, ac wedi sefydlu cyfres o ynysoedd artiffisial a safleoedd milwrol yno.

Mae Gweinyddiaeth Amddiffyn y wlad wedi cyfaddef iddyn nhw fygwth llong yr Unol Daleithiau yn fwriadol, er mwyn annog iddi hwylio oddi yno.

Hefyd, mae’r adran wedi dweud eu bod yn gwrthwynebu presenoldeb llongau rhyfel yr Unol Daleithiau ym Môr De Tsieina.