Mae lle i gredu bod 32 o ffoaduriaid, ynghyd â dau blentyn, wedi marw ar y môr ger arfordir Morocco wrth aros mwy na 36 awr i gael eu hachub o gwch a oedd yn suddo.

Yn ôl Helena Maleno o’r grŵp ymgyrchu, Walking Borders, cafodd 26 o bobol eu cludo i dir brynhawn ddoe (dydd Llun, Hydref 1) ger tref Nador yn Morocco.

Mae’n ychwanegu bod o leiaf 34 o bobol naill ai wedi marw neu wedi diflannu ar y Môr Canoldir.

Roedd y ffoaduriaid wedi cysylltu â’r ymgyrchydd ddydd Sul, ac fe wnaeth hi gysylltu a’r awdurdodau yn Sbaen gan roi manylion am leoliad y cwch.

Cafodd y wybodaeth wedyn ei throsglwyddo i awdurdodau Morocco.