Mae gan Ogledd Corea hyd at 60 o arfau niwclear, yn ôl ysbïwyr y De.

Dyma’r tro cynta’ i lywodraeth Seoul wneud sylw ar stoc arfau y Gogledd, ond mae wedi rhoi ei phen ar y bloc trwy amcangyfrif bod ganddi “rhwng 20 a 60” o fomiau niwclear.

Dywed nad yw hynny’n golygu ei bod yn ystyried y Gogledd fel gwladwriaeth niwclear, ond mae’n awgrymu y byddai ymdrechion diplomyddol Seoul i roi diwedd ar raglen niwclear y Gogledd yn parhau.

Yn ôl adroddiadau llywodraeth De Corea, credir bod y Gogledd wedi cynhyrchu 50 cilogram o blwtoniwm arfog, yn ddigon ar gyfer creu o leiaf wyth bom.

Mae ymchwil ysgolheigion Prifysgol Stanford, Califfornia, hefyd yn amcangyfrif bod gan Ogledd Corea grynhoad swmpus, rhwng 250 i 500 cilogram, o wraniwm, sy’n ddigon ar gyfer 25 i 30 o ddyfeisiau niwclear.