Mae erlynwyr yr yr Almaen wedi gorchymyn bod chwe dyn yn cael eu harestio ar amheuaeth o greu “sefydliad brawychol asgell dde” yn nwyrain dinas Chemnitz.

Maen nhw’n honni bod y dynion – i gyd rhwng 20 a 30 oed – wedi ffurfio grŵp yn galw eu hunain yn Chwyldro Chemnitz gyda chymorth seithfed dyn a gafodd ei arestio mewn achos ar wahân fis diwethaf.

Dywed yr erlynwyr bod y dynion wedi cynllwynio i gynnal ymosodiadau arfog yn erbyn “gelynion” tramor a gwleidyddol. Mae hyn yn dilyn ffrwydriad a oedd wedi’i anelu at fewnfudwyr yn y ddinas a ymddangosodd dros yr haf.

Mae dros gant o swyddogion yn rhan o’r ymgyrch yn nhalaith Saxony a Bafaria, ynghyd ag archwilio eiddo sy’n gysylltiedig â’r dynion.

Mae cynnydd wedi bod yn nifer yr achosion o drais tuag at dramorwyr, wedi i ymfudwyr gael eu beio am lofruddiaeth yn y ddinas ym mis Awst eleni.