Mae Canada a’r Unol Daleithiau wedi dod i gytundeb neithiwr (dydd Sul, Medi 30) sy’n golygu bod Canada yn aros yn rhan o gytundeb masnach rydd gydag America a Mecsico.
Mae’r tair gwlad yn dweud y bydd Cytundeb Unol Daleithiau-Mecsico-Canada (USMCA), yn arwain at farchnadoedd rhydd a masnach decach. Mae’r cytundeb hefyd yn dileu tariffau ar 2.6 miliwn o geir.
“Mae’n ddiwrnod da i Ganada,” meddai prif weinidog Canada, Justin Trudeau.
“Mae’n noson dda i Fecsico, ac i Ogledd America,” meddai Luis Videgaray, Gweinidog Tramor Mecsico, wedyn ar wefan gymdeithasolTwitter.
Datganiad
“Fe fydd USMCA yn rhoi cytundeb masnach safonol i’n gweithwyr, ffermwyr a busnesau, a fydd yn arwain at farchnadoedd rhydd, masnach decach a thwf economaidd cadarn yn ein rhanbarth,” meddai’r datganiad ar y cyd rhwng y tair gwlad.
“Fe fydd yn cryfhau’r dosbarth canol, yn creu swyddi da sy’n talu’n dda, ac yn creu cyfleoedd newydd ar gyfer bron i hanner biliwn o bobol sy’n galw Gogledd America yn gartref.”