Cafodd chwe pherson eu hachub ar ôl i falŵn aer poeth daro peilon trydan yn yr Almaen.

Yn ôl y gwasanaeth newyddion, dpa, fe darodd y balŵn beilon ger dinas Bottrop yng ngorllewin y wlad ddydd Sul (Medi 30), gan adael i’r fasged hongian oddi wrtho.

Ar ôl cael eu hachub yn dilyn ymdrech a barodd hyd at bum awr, fe gafodd y chwe pherson eu cludo i’r ysbyty er mwyn derbyn archwiliad meddygol.

Drwy lwc, ni wnaeth y fasged gyffwrdd â gwifrau’r peilon wrth fynd yn sownd iddo, ac ni chafodd neb eu hanafu o ganlyniad i’r digwyddiad.