Mae cannoedd o bobol wedi ymgasglu yn ninas Köln yn yr Almaen i brotestio yn erbyn ymweliad arlywydd Twrci, Recep Tayyip Erdogan.

Mae disgwyl iddo agor mosg a gafodd ei adeiladu gan griw sydd â chysylltiadau â Thwrci.

Roedd miloedd o bobol yn ninas Berlin nos Wener i gynnal protest debyg.

Bwriad ei ymweliad â’r Almaen yw lleihau’r tensiynau rhwng y ddwy wlad, ac fe wnaeth e gyfarfod â’r Canghellor Angela Merkel i ddechrau ei daith.

Yn y gorffennol, mae Recep Tayyip Erdogan wedi dweud bod yr Almaen yn “elyn” i Dwrci, gan gyhuddo swyddogion y wlad o ymddwyn fel Natsïaid.