Fe fu gwrthdaro yn Barcelona rhwng cefnogwyr annibyniaeth i Gatalwnia a heddlu oedd yn gorymdeithio i hawlio mwy o gyflog.

Camodd heddlu Catalwnia i mewn pan daflodd protestiwr baent at ddyn oedd yn gorymdeithio i gefnogi heddlu Sbaen.

Mae cryn densiynau yng Nghatalwnia ar hyn o bryd, ar drothwy refferendwm annibyniaeth oedd yn cael ei ystyried yn anghyfreithlon gan Sbaen yn 2016. Fe fu cryn wrthdaro bryd hynny hefyd.