Mae ceisiwr lloches 19 oed o Afghanistan wedi cael ei arestio ar amheuaeth o drywanu tri o bobol yn ne-orllewin yr Almaen.

Cafodd un o’r tri anafiadau difrifol yn y digwyddiad yn Ravensburg.

Cawson nhw eu cludo i’r ysbyty.

Mae lle i gredu mai dau ddyn 19 oed o Syria a dyn 52 oed o’r Almaen yw’r tri sydd wedi cael eu hanafu. Cafodd dau ohonyn nhw anafiadau ger arhosfan bws, a’r llall mewn ardal gyfagos.

Dydy’r awdurdodau ddim yn trin y digwyddiad fel ymosodiad brawychol.

Dywedodd Maer Ravensburg iddo fynd at yr ymosodwr a’i orchymyn i ollwng ei gyllell cyn i’r heddlu ei arestio.