Bydd gwrandawiad arbennig yn cael ei gynnal yn ddiweddarach, fel rhan o’r broses i benodi Ustus newydd i Oruchaf Lys yr Unol Daleithiau.

Mae’r Ustus Anthony M Kennedy wedi datgan ei fod am gamu o’r neilltu, ac mae’r Arlywydd Donald Trump wedi enwebu’r barnwr Brett Kavanaugh i gymryd ei le.

Ond, bellach mae tair dynes wedi camu ymlaen a chyhuddo’r gŵr hwnnw o ymosod a chamymddwyn rhywiol – Mae wedi gwadu pob cyhuddiad yn ei erbyn.

Felly, ar dydd Iau (Medi 27) bydd Pwyllgor Barnwriaeth y Senedd yn galw ar Brett Kavanaugh ac un o’r menywod i roi tystiolaeth ar y mater.

Mi fydd yna fwyafrif ceidwadol ar Oruchaf Lys y wlad os bydd y barnwr yn ennill yr enwebiad, felly mae disgwyl i aelodau Democrataidd y pwyllgor graffu arno’n galed.