Mae mudiad hawliau dynol yn honni fod dynes 22 oed wedi marw wedi i lyges Morocco danio at gwch oedd yn cael ei amau o gario ffoaduriaid i’r wlad.
Mae tri o ffoaduriaid eraill hefyd wedi’u hanafu yn y digwyddiad.
Yn ôl yr Arsyllfa Hawliau Dynol yn Morocco, myfyrwraig y Gyfraith oedd y ddynes, a bu farw cyn cyrraedd yr ysbyty.
Roedd y cwch yn cario 25 o bobol o Morocco. Roedd arni ddau gapten o Sbaen, ac maen nhw erbyn hyn yn y ddalfa. Yn ôl Swyddfa Gartref Morocco, roedd y cwch yn cario mewnfudwyr anghyfreithlon.