Dydi adeiladwyr un o stadiwms Cwpan y Byd 2022 heb gael eu talu a bellach maen nhw’n sownd yn Qatar, yn ôl adroddiad.

Roedden nhw’n gweithio i gwmni Mercury MENA, ac mae’n debyg bod gwerth miloedd o ddoleri o gyflogau heb gael eu talu.

Yn ôl Amnest Rhyngwladol, mae mwyafrif o’r adeiladwyr yn hanu o wledydd tramor ac maen nhw’n cael eu rhwystro rhag dychwelyd iddyn nhw gan gyfraith gwlad Qatar.

Dyw Mercury MENA heb ateb ceisiadau’r wasg, mae eu gwefan wedi’i ddileu, ac mae’n ymddangos bod eu swyddfeydd wedi cau.

Mae Llywodraeth Qatar – cartref y twrnamaint pêl-droed ymhen rhai blynyddoedd – wedi dweud eu bod yn ymchwilio i’r mater, ond mae ‘na bryderon o hyd am hawliau gweithwyr yno.

Bu farw dyn o wledydd Prydain yno’r llynedd wrth weithio ar stadiwm, a bu farw dyn o Nepal ym mis Awst wrth weithio ar safle adeiladu.