Mae prif weinidog Sweden wedi colli pleidlais o ddiffyg hyder yn ei erbyn yn senedd y wlad, sy’n golygu y bydd yn rhaid iddo gamu o’r neilltu.

Ond fe fydd Stefan Lofven, arweinydd plaid y Sosialwyr Democrataidd, yn parhau yn ei swydd nes y bydd llywodraeth newydd yn cael ei ffurfio.

Fe bleidleisiodd gwleidyddion 204-142 yn ei erbyn, tra bod tri aelod etholedig wedi atal eu pleidleisiau.

Mae Stefan Lofven wedi bod yn brif weinidog ers 2014.