Fydd yr anghydfod rhwng Tsieina a’r Unol Daleithiau ddim yn dod i ben nes y bydd Washington yn rhoi’r gorau i godi tariffau.

Daw’r rhybudd gan un o weinidogion Tsieina wrth i’r rhyfel masnach rhwng y ddwy wlad ddwysáu ymhellach.

Ddoe (dydd Llun, Medi 24) fe gododd America ragor o drethi ar werth £152bn o nwyddau o Tsieina, ac fe ymatebodd Beijing trwy godi trethi ar werth £46bn o nwyddau Americanaidd.

Mae’r gweinidog masnach, Wang Shouwen, yn dweud bod Tsieina yn barod i drafod, ond mae hefyd wedi galw am newid yn ymddygiad Washington.

“Sut allwn drafod tra bod yr Unol Daleithiau yn dal cyllell i’n gwddf?” meddai. “Does dim modd trafod dan y fath amodau.”