Miloedd yn martsio yn Mosgow yn erbyn codi oed pensiwn Rwsia

 

Gennady Zyuganov, arweinydd y Blaid Gomiwnyddol (yn y canol) yn arwain y rali yn Mosgow

Llun: Sergei Sergeyev, Gwasanaeth y Wasg Plaid Gomiwnyddol Rwsia trwy AP

Mae miloedd o bobol wedi bod yn gorymdeithio yn Rwsia heddiw (dydd Sadwrn. Medi 22) er mwyn dangos eu gwrthwynebiad i gynlluniau i godi oed pensiwn o bum mlynedd.

Fe gynhaliwyd rali yn Mosgow gan y Blaid Gomiwnyddol a grwpiau eraill, gyda chaniatad swyddogion y ddinas.

Mae arweinydd y Blaid Gomiwnyddol, Gennady Zyuganov. wedi galw am ddileu’r cynlluniau, gan ddadlau y dylai llywodraeth Rwsia fod yn rhannu ei hadnoddau er mwyn osgoi gorfod codi’r oed y bydd gweithwyr yn gallu hawlio pensiwn.

“Maen nhw estyn yn ddyfnach i mewn i’ch pocedi chi trwy’r amser,” meddai wrth y dorf a oedd yn chwifio baneri coch.

Fe gynhaliwyd protestiadau tebyg mewn dinasoedd ledled Rwsia.

 

Erthyglau perthnasol

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.

Rheolau Cyfrannu | Nodi Camddefnydd

Rheolau Cyfrannu

Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.

Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.

Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360 yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.

Iawn

Nodi Camddefnydd

Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.

Iawn

Owain Glyn Dŵr a dysgu hanes Cymru – darlith Dr Elin Jones