Mae tirlithriad anferth wedi claddu dwsinau o gartrefi mewn dau bentref yng nghanolbarth y Ffilipinas. Mae o leia’ bedwar o bobol wedi’u lladd

Mae achubwyr wrthi fel lladd nadroedd yn ceisio dod o hyd i bobol sydd wedi goroesi, wedi i rai pentrefwyr anfon negeseuon tecst yn gofyn am gymorth.

Mae’r tirlithriad wedi claddu mwy na 30 o dai gwledig ar gyrion dinas Naga yn nhalaith Cebu.

Fe gafodd saith o bobol eu hachub o ganol pentwr mawr o bridd a rwbel.